Mapiau a Diagramau
Rhagair
Darllen Pellach
Pennod Un Paviland, Tinkinswood a Llyn Cerrig Bach: Y Dechreuadau
Pennod Dau Caer-went, Whitton a Segontium: Cymru a Rhufain
Pennod Tri Dinas Powys, Catraeth a Llanilltud Fawr: 400–800
Pennod Pedwar Aberffraw, Dinefwr a Mathrafal: 800–1282
Pennod Pump Rhuddlan, Sycharth a Phenmynydd: 1282–1530
Pennod Chwech Llwydlo, Gwedir a Llangeitho: 1530–1770
Pennod Saith Treffynnon, Dowlais a Llanofer: 1770–1850
Pennod Wyth Y Rhondda, Aberystwyth a Bethesda: 1850–1914
Pennod Naw Y Somme, Bryn-mawr a Phenyberth: 1914–39
Pennod Deg Caerdydd, Margam a Thryweryn: 1939–79
Pennod Un ar Ddeg Shotton, Brwsel a Chaerfyrddin Cymru oddi ar 1979
Follow Penguin
PENGUIN BOOKS
Y mae John Davies yn frodor o’r Rhondda. Fe’i addysgwyd mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlch-llan a Thregaron ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu’n ddarlithydd yng Ngholegau Abertawe ac Aberystwyth ac am ddeunaw mlynedd ef oedd Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Cardiff and the Marquesses of Bute, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, Y Celtiaid a Cardiff: A Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol Y Gwyddoniadur Cymreig. Daw ei wraig o Flaenau Gwent ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab.
I Conor a Mabon
1 Dosbarthiad cromlechi yng Nghymru
2 Dosbarthiad cylchoedd cerrig a meini hirion yng Nghymru
3 Dosbarthiad bryngaerau yng Nghymru
4 Y Gymru Rufeinig
5 Dosbarthiad cerrig ac arnynt arysgrifau o’r cyfnod 400–700
6 Brythoniaid a Saeson, 500–700
7 Y Teyrnasoedd Cynnar
8 Yr Eglwys Geltaidd
9 Llinachau teuluoedd brenhinol Cymru, 400–1400
10 Uno Cymru, 844–1063
11 Ymosodiadau’r Normaniaid ar Gymru, 1067–1099
12 Daliadaethau prif Arglwyddi’r Mers
13 Yr esgobaethau a’r mynachlogydd
14 Siart achau i ddarlunio’r cysylltiadau rhwng teuluoedd Aberffraw, Dinefwr a Mathrafal, a llinachau Plantagenet, Dunkeld, Lancaster, York, Tudur, Stuart a Valois
15 Cymru 1267: Cytundeb Trefaldwyn
16 Y Ddeddf ‘Uno’, 1536
17 Poblogaeth Cymru, 1801 a 1921
18 Diwydiant haearn maes glo’r de
19 Undebau Deddf y Tlodion, y Siroedd Cofrestru a’r Dosbarthiadau Cofrestru
20 Cymhariaeth rhwng siâp y boblogaeth yn y Gymru ddiwydiannol a’r Gymru wledig yn 1891
21 Chwareli llechi’r gogledd
22 Rheilffyrdd Cymru, 1839–1860
23 Rheilffyrdd Cymru erbyn 1914
24 Cyfrifiad Crefydd 1851
i Addoldai’r Eglwys Wladol
ii Addoldai’r Annibynwyr
iii Addoldai’r Bedyddwyr
iv Addoldai’r Methodistiaid Calfinaidd
v Addoldai’r Wesleaid
vi Addoldai’r Catholigion, yr Undodiaid a’r Mormoniaid
25 Maes glo’r gogledd
26 Y niferoedd a gyflogid ym maes glo’r gogledd, 1871–1971
27 Maes glo’r de
28 Nifer glowyr maes glo’r de, 1851–1987
29 Diweithdra yng Nghymru, Awst 1932
30 Unedau llywodraeth leol Cymru cyn 1974
31 Unedau llywodraeth leol Cymru, 1974–1996
32 Unedau llywodraeth leol Cymru oddi ar 1996
33 Y bleidlais ‘Ie’ yn 1997
34 Y bleidlais ‘Na’ yn 1997
35 Canran y boblogaeth a anwyd yng Nghymru yn ôl Cyfrifiad 2001
36 Canran y boblogaeth â’r gallu i siarad Cymraeg yn 2001
37 Y niferoedd â’r gallu i siarad Cymraeg yn 2001
Yn argraffiad cyntaf y gyfrol hon, olrheiniwyd y stori i fyny at flynyddoedd olaf y 1980au. Oddi ar hynny, daeth newidiadau helaeth i ran pobl Cymru, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn gyfansoddiadol – sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn flaenaf yn eu plith. Tra roedd yr argraffiad newydd hwn yn y wasg, pasiwyd Deddf Cymru (2006); gan bod y ddeddf yn rhoi pwerau lled-ddeddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae’n brawf pellach fod datganoli yn broses yn hytrach nag yn ddigwyddiad.
Mae’r argraffiad hwn yn cynnwys pennod ychwanegol sy’n ceisio asesu’r datblygiadau yng Nghymru yn ystod y chwarter canrif a mwy a aeth heibio. Heblaw am fân gywiriadau a diwygiadau, hanfod gweddill y testun yw’r hyn a gyhoeddwyd gyntaf yn 1990.
Wrth baratoi’r argraffiad hwn, cesglais ddyledion lu. Bu Richard Duguid o Gwmni Penguin yn hynod dreiddgar ac amyneddgar, a diolchaf hefyd am gymorth Simon Winder, Chloe Campbell a Rebecca Lee. Elwais ar arbenigedd John Rowlands ac ar sylwadau bachog Cynog Dafis. Bu pobl y Cyngor Llyfrau, Dewi Morris Jones yn arbennig, yn dra chymwynasgar. Unwaith eto, mae ’nyled pennaf i’m gwraig, Janet Mackenzie Davies. Hi a luniodd y mynegai a bu’n ddigon graslon i drafod gyda mi bob paragraff o’r gyfrol. Cyflwynwyd argraffiad cyntaf y gyfrol hon i’r olaf o’r hen genhedlaeth; cyflwynir yr argraffiad hwn i’r cyntaf o’r genhedlaeth newydd.
John Davies
Trelluest
Caerdydd
14 Mai 2006
Tra oeddwn wrthi’n ysgrifennu’r gyfrol hon, nodais darddiadau’r dyfyniadau ynghyd â myrdd o gyfeiriadau at lyfrau ac erthyglau, ond buan y sylweddolais y byddai cyhoeddi’r nodiadau yn dwblu maint y gyfrol.
I’r sawl sydd am ddarllen yn helaeth yn y maes, ac sydd o fewn cyrraedd peiriant addas, y llyfryddiaeth safonol ar hanes Cymru yw rhestr drylwyr Philip Henry Jones, A Bibliography of the History of Wales (trydydd argraffiad, microfiche, 1988). Ceir nodiadau bywiog ar lyfrau ac erthyglau (Saesneg yn unig) yn Gwyn A. Williams, When was Wales? (1985). Hyd yma, ymddangosodd pedair cyfrol yn y gyfres ar hanes Cymru a gyhoeddir gan Wasg Clarendon a Gwasg Prifysgol Cymru, a cheir llyfryddiaethau gwerthfawr ym mhob un ohonynt. Gweler R. R. Davies, Conquest, Coexistence and Change, Wales, 1063–1415 (1986), Glanmor Williams, Recovery, Reorientation and Reformation, Wales, c. 1415–1462 (1987), Geraint H. Jenkins, The Foundations of Modern Wales, 1642–1760 (1987) a Kenneth O. Morgan, Rebirth of a Nation, Wales, 1880–1980 (1981). Ar y cyfnod i fyny at 1063, ceir rhestrau defnyddiol yn H. N. Savory ac eraill, Henebion Cymru (1976) a Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (1982). Y rhagarweiniad gorau o hyd i’r cyfnod 1760–1880 yw cyfrolau llachar R.T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif a Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (ailargraffiadau, 1972), ond gweler hefyd draethawd llyfryddiaethol Gwyn A. Williams yn David Smith (gol.), A People and a Proletariat (1980).
Yng Nghylchgrawn Hanes Cymru (22 cyfrol oddi ar 1960), ceir adolygiadau cynhwysfawr, crynodebau o erthyglau a rhestrau o draethodau ymchwil anghyhoeddedig. Mae catalog llyfrau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gael ar safle we y llyfrgell.